La Rosiere

La Rosiere oedd y rhan ar lwybr y Tour de France lle enillodd Geraint Thomas Gymal 11 mewn ffasiwn odidog. Yn enwog, aeth Geraint yn ei flaen wedi hynny i ennill Tour de France 2018.

Mae’r ystafell wely dwbl cysurus hon yn llawn swyn ac fe’i gosodir ym margod y Porthdy gyda golygfeydd dros ein tiroedd tuag at y prif dŷ.

Wedi’i addurno gyda phapur wal glasurol William Morris ‘Willow Boughs’ a ddyluniwyd ym 1887 ac yn nodweddu dawn ragorol Morris i ddylunio a chyfansoddi gyda llinellau troellog a naws gynnil. Mae’r pen gwely wedi’i ddylunio’n arbennig o gasgliad Romo Pluma. Roedd Sara Thomas, sy’n dylunio ein holl ystafelloedd gwely, eisiau rhoi lliw a gwead yn y fan hon felly fe ddefnyddion ni’r palet cyfoethog hwn o arlliwiau dyfnach. Yn olaf, mae’r tafliad gwely wedi’i wneud o ffabrig chenille hyfryd o’r gyfres Zoffany Rothko.

Gellir gwneud La Rosiere hefyd yn ystafell dau wely ac mae ganddo gawod en-suite.

divider image

X