Derbyniad

Lleoliad Paradwysaidd

Gyda digonedd o le i’ch gwesteion i ymlacio a mwynhau’r dathliadau, mae Tŷ Sain Tewdrig yn lle delfrydol i gynnal priodas. Does nunlle gwell na’n teras mawr a’r gerddi hardd i groesawu’ch gwesteion gyda diod, ac mae’r lawnt eang yn lle gwych i gynnal gemau gardd. Gall eich gwesteion hefyd gymryd seibiant o holl fwrlwm y dathlu a mynd i gael golwg ar y ddôl o flodau gwyllt tymhorol. Fel y gallwch ddychmygu, mae ffotograffwyr yn cael modd i fyw yn Nhŷ Sain Tewdrig gan fod y gerddi a’r golygfeydd penigamp o gefn gwlad yn gefndir mor ffantastig i’r lluniau hollbwysig.

Yn ogystal â’r teras, mae ystafelloedd derbyn clyd Y Tŷ, lle mae digonedd o seddi cyfforddus a golygfeydd bendigedig drwy’r drysau Ffrengig a’r ffenestri cyfnod, yn lle perffaith i gymysgu gyda’ch gwesteion. Tu mewn neu y tu allan, mi fyddwn ni’n sicrhau bod y diodydd yn llifo a’ch bod chi a’ch gwesteion yn cael modd i fyw. Gall cerddoriaeth fyw greu awyrgylch arbennig a chynnig cyfeiliant gwych i’ch diodydd croeso, ac ry’n ni’n nabod sawl cerddor penigamp pe bai angen argymhellion arnoch.

divider image

Gadewch i Ni Ofalu Amdanoch Chi Drwy’r Dydd

Tra’ch bod chi’n mwynhau diodydd a chanapes gyda’ch gwesteion, byddwn ni wrthi’n brysur yn paratoi’r Cwrt ar gyfer eich gwledd briodas. Pan fydd y blodau yn eu lle a’r canhwyllau wedi’u cynnau, bydd cyfle i chi’ch dau gael eich syfrdanu gyda chipolwg o’r ystafell fawreddog cyn i’ch gwesteion fynd i mewn.

Bydd croeso wedyn i chi fwynhau pum munud fach dawel gyda’ch gilydd tra bod eich gwesteion yn cymryd eu seddi. Efallai y byddwch chi’n dewis mynd am dro drwy’r gerddi a thynnu ambell lun rhamantus. Beth bynnag a wnewch chi, mi fyddwn ni’n barod ac yn aros i’ch croesawu i’ch gwledd briodas gyda llond gwlad o gyfarchion a chymeradwyaeth gan eich gwesteion.

Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch eich gwledd briodas yn Y Cwrt gyda hyd at 150 o westeion. Pryd bwyd tri chwrs moethus neu rywbeth llai ffurfiol; pa bynnag un sy’n mynd â’ch bryd, bydd arlwywyr mewnol Tŷ Sain Tewdrig, Cleverchefs, yn sicrhau eich bod chi a’ch gwesteion yn derbyn pob gofal.

divider image

Pylwch y Goleuadau a Dawnsiwch

Ar ôl eich gwledd briodas a’r areithiau, byddwn yn eich gwahodd chi a’ch gwesteion i wneud eich ffordd yn ôl i ystafelloedd derbyn Y Tŷ, lle bydd te a choffi yn cael eu gweini. Bydd y Bar Potel ar agor hefyd er mwyn i chi barhau â’r dathliadau! Os byddwch chi’n gwahodd gwesteion ychwanegol i ymuno â chi ar gyfer y parti nos, dyma fydd y lle perffaith i’w cyfarch a rhoi cyfle iddynt brofi hud Tŷ Sain Tewdrig ac ymuno gyda’r dathlu.

Daw’r Cwrt yn fyw gyda’r nos, lle gallwch bartio gyda hyd at 150 o westeion. Bydd eich band neu DJ yn eich disgwyl a bydd y goleuadau’n cael eu pylu i greu’r awyrgylch perffaith ar gyfer noson llawn hwyl a dawnsio. Mae’r prif far wedi’i leoli’n gyfleus yn y Y Cwrt ei hun sy’n golygu na fydd angen i neb adael yr ystafell lle mae’r llawr dawnsio. 

Cyn noswylio, efallai bydd awydd arnoch i ymgynnull yn y gegin i rannu diod a chyfnewid straeon gyda’r gwesteion hynny sy’n aros gyda chi yn Y Tŷ. Yna wrth i chi ei throi hi am foethusrwydd Cariad, eich swît briodasol, caiff eich gwesteion edrych ymlaen at aros yn un o’n saith ystafell wely hyfryd.

divider image
X