Priodasau

Lleoliad Priodas Heb Ei Ail

Mae ‘St Tewdrics House’ yn lleoliad priodas arobryn, yn swatio yng nghefn gwlad ddelfrydol Sir Fynwy. Wedi’i hamgylchynu gan gaeau gwyrdd gogoneddus, mae’n cynnig golygfeydd godidog o aber Afon Hafren a gyda llwybr llydan coediog yn arwain ati, y fila Eidalaidd hardd hon o’r 19eg ganrif yw’r lle perffaith i gynnal eich priodas.  

Gellir llogi’r lleoliad uchel ei glod ar gyfer diwrnod eich priodas yn unig, neu efallai yr hoffech chi ymestyn eich arhosiad gyda ni am ddwy neu dair noson er mwyn gallu ymlacio’n llwyr a gwneud y mwyaf o’r dathlu.

Ry’n ni am i chi drin ‘St Tewdrics House’ fel cartref oddi cartref a mwynhau’ch diwrnod mawr gyda’ch teulu a ffrindiau mewn preifatrwydd llwyr!

divider image

Teilwra Eich Priodas

Busnes teuluol yw ‘St Tewdrics House’ ac ry’n ni’n falch iawn o allu bod yn hyblyg a chaniatáu ichi ychwanegu’r cyffyrddiadau bach personol hynny sy’n golygu gymaint wrth drefnu priodas. Ry’n ni wrth ein boddau bod pob priodas yn unigryw i bob cwpwl, felly p’un a ydych chi’n dymuno cael achlysur ffurfiol mawr neu ddathliad hamddenol llai, byddwn ni yma i wireddu priodas eich breuddwydion!

Unwaith y byddwch chi wedi gosod y dyddiad, byddwn ni’n gweithio gyda chi er mwyn teilwra’ch priodas yn arbennig ar eich cyfer chi – dyma le mae cyffro’r paratoi yn dechrau!

Bydd ein harlwywyr mewnol, ‘Epic Caterers’, yn gweithio ochr yn ochr â chi i greu’ch bwydlen ddelfrydol ar gyfer y wledd briodas. Byddwch chi mewn dwylo diogel gyda ‘Epic Caterers’ gan eu bod wedi ennill nifer o wobrau ac mae gan bob un o’u cogyddion brofiad o weithio mewn sefydliadau â gwobr Michelin!

Nid dyna fydd diwedd y cynnwrf a’r mwynhad chwaith, wrth i ni eich helpu chi i ddewis y diodydd ar gyfer y diwrnod – mae gan ein Rheolwr Bar syniadau gwych i’w rhannu gyda chi a gall gynnwys eich hoff ddiodydd yn y diwrnod.

Ry’n ni’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith ein bod ni’n gallu’ch helpu i greu’r cyfuniadau perffaith fydd yn siŵr o ryfeddu’ch gwesteion. Os hoffech chi i ni argymell cwmnïau fyddai’n gallu cyflenwi pob math o bethau eraill ar gyfer eich priodas, dim ond gofyn sydd raid. Ry’n ni wedi gweithio gyda nifer o arbenigwyr a chyflenwyr gwych ac yn fwy na hapus i rannu’n ffefrynnau gyda chi.

divider image

Ymunwch â Theulu ‘St Tewdrics’

Bydd ein tîm cyfeillgar a phrofiadol wrth law i’ch arwain chi wrth i chi drefnu diwrnod pwysicaf eich bywyd gyda ni.  Bydd croeso cynnes ‘St Tewdrics’ yn eich disgwyl bob tro y byddwch yn ymweld â ni – mi fyddwch chi’n teimlo fel rhan o’r teulu mewn dim o dro!

Mae trefnu’ch priodas yn amser mor gyffrous a difyr ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael bod yn rhan ohono! Gallwn gynnig cymaint o help a fydd angen arnoch chi ac mae llond gwlad o wybodaeth, syniadau a chyngor am y diwydiant gyda ni i’w rhannu gyda chi.

divider image
X