Llety

Llety Moethus

Yn frith o fanylion godidog a dodrefn moethus, mae ein holl ystafelloedd gwely yn ‘St Tewdrics House’ wedi’u cwblhau i’r safon uchaf l i greu gofod chwaethus ac ysblennydd ar eich cyfer chi a’ch gwesteion. Mae ein hystafelloedd gwely yn wirioneddol arbennig, yn cynnwys elfennau unigryw a phwrpasol, o ganhwyllyr disglair, lloriau a chilannau gwreiddiol, lleoedd tân haearn a baddonau pen-rhol, i gynnyrch bath moesegol gan y ‘Goodwash Company’ ym mhob un o’n hystafelloedd ymolchi. Cafodd yr ystafelloedd i gyd eu henwi gydag ystyr personol iawn gan y perchnogion, Sara a Geraint Thomas OBE.

Mae ‘St Tewdrics House’ yn cynnig ein holl ystafelloedd fel rhan o’ch archeb priodas sy’n golygu bod yr holl lety wedi’i gadw ar eich cyfer chi a’ch gwesteion yn unig. Os ydych chi’n westai sy’n mynychu priodas yn ‘St Tewdrics House’ cysylltwch â’r cwpl yn uniongyrchol.

divider image

X