Y Lleoliad

Y Cwrt Trawiadol a Disglair


Ychwanegiad newydd i Dŷ Sain Tewdrig yw’r Cwrt ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cynnal eich seremoni, eich gwledd briodas a’ch parti nos.

Mae’r ystafell hynod, sydd â lle i hyd at 150 o westeion, wedi’i haddurno’n hyfryd i weddu â nodweddion cyfnod Y Tŷ. Mae’r trawstiau pren a’r waliau cerrig gwreiddiol noeth yn gydfynd â’r nenfydau uchel a’r siandalïers crisial yn berffaith, tra bod ffenestr do eang o wydr yn goleuo’r ystafell a rhoi iddi naws gyfoes. Mae’r drysau ‘bi-folds’ gwydr modern yn cynnig golygfeydd panoramig o’n gerddi hardd, gan gysylltu’r tu allan gyda’r tu mewn.

Palet lliw niwtral sydd gan Y Cwrt, sy’n gweddu gyda phob steil a chwaeth ac mi fydd yn addas ar gyfer pa bynnag thema neu gynllun lliw y byddwch yn dewis. Ry’n ni wedi bod yn ffodus iawn i weld pob math o addurniadau ffantastig yma yn y gorffennol – o arddangosfeydd clasurol o flodau gwyn i dlysau modern, llachar.

Mae yna far trwyddedig yn Y Cwrt, fydd wedi’i stocio’n llawn ac ar gael i chi a’ch gwesteion i’w fwynhau yn ystod eich gwledd briodas a’ch parti nos.

divider image

Y Tŷ Hardd Rhestredig Gradd II

Yn ogystal â’r Cwrt, mae gan Y Tŷ ei hun, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, dair ystafell dderbyn a chyntedd eang sy’n berffaith ar gyfer croesawu’ch gwesteion a dathlu gyda nhw trwy gydol y dydd.

Pan yn adewyddu’r Tŷ, fe gymeron ni ofal mawr i gadw’r nodweddion cyfnod gwreiddiol ond eto darparu cynfas niwtral i chi gael addurno fel y dymunwch. Ry’n ni fel arfer yn gweini’ch diodydd croeso yn nwy brif ystafell dderbyn Y Tŷ, lle caiff eich gwesteion ymlacio a gwneud eu hunain yn gartrefol. Yma hefyd y byddwn ni’n gweini te a choffi wedi’ch gwledd briodas. Bydd Yr Ystafell Ddylunio hefyd ar gael, sy’n boblogaidd iawn ymysg gwesteion sy’n dymuno cymryd saib fer o holl gynnwrf y diwrnod. Mae gan bob un o ystafelloedd derbyn Y Tŷ ffenestri sy’n estyn o’r llawr i’r nenfwd felly bydd modd i chi fwynhau’r golygfeydd o’n gerddi bendigedig beth bynnag fo’r tywydd.

Gallwn agor ein Bar Potel, sydd ym mhrif ystafell dderbyn Y Tŷ, ar gyfer eich diodydd croeso os hoffech chi. Bydd y bar hwn hefyd ar gael wedi’r wledd briodas er mwyn i chi allu parhau â’r dathliadau wrth i ni baratoi’r Cwrt ar gyfer y parti nos.

Os mai cael priodas lai o faint sy’n mynd â’ch bryd, mae’r ystafelloedd derbyn yn Y Tŷ hefyd yn llefydd perffaith i gynnal seremonïau a gwleddoedd priodas llai.

divider image

Eich Cartref Oddi Cartref

Gydag wyth ystafell wely en-suite moethus a chegin deulu fawr, mae lle i 16 o westeion i aros dros nos yn Nhŷ Sain Tewdrig. Y gegin hardd yw calon Y Tŷ, a’r lle perffaith i ddod ynghyd gyda’ch teulu a’ch ffrindiau agosaf y bore wedi’ch priodas.

Mae croeso i chi ddod â’ch bwyd eich hun i’w goginio i frecwast y diwrnod canlynol (a ry’m ni’n siwr bydd angen gwledd fawr arnoch wedi’r holl ddathlu!) ond mae nifer o gyplau’n trefnu bod Cleverchefs yn dod i baratoi’r pryd, gan roi cyfle i chi ymlacio a mwynhau bore hamddenol. Pa bynnag opsiwn y dewiswch chi, does dim dwywaith mai’n bwrdd derwen mawr yw’r lle perffaith i ymgynnull a rhannu straeon o’r diwrnod blaenorol dros frecwast.

divider image

X