Lleoliad Priodas Hollol Syfrdanol

Croeso i St Tewdrics

Mae ‘St Tewdrics House’ yn fila Eidalaidd foethus o’r 19eg ganrif wedi’i amgylchynu gan ddeg erw o gefn gwlad ryfeddol Sir Fynwy. Wrth i chi nesáu mi welwch dramwyfa goediog a dôl blodau gwyllt tymhorol syfrdanol. ‘St Tewdrics House’ yw’r lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas.

Fel enillydd y wobr am y Lleoliad Priodas Gorau (Adeilad Hanesyddol) yn Ne Orllewin Prydain yn Ngwobrau’r Diwydiant Priodas, Ry’n ni wrth ein boddau yn cael cydnabyddiaeth fel lleoliad priodas flaenllaw sy’n gyson yn darparu’r profiad gorau oll i’n cyplau. 

Mae modd llogi ‘St Tewdrics House’  ar gyfer diwrnod eich priodas yn unig neu mi allwch chi ddewis ymestyn eich harhosiad i ddwy neu dair noson er mwyn i chi ymlacio’n llwyr a gwneud y mwyaf o ddathlu’ch priodas. Ry’n ni bob amser yn gwrando ar ddymuniadau ein cyplau, a’n nod yw i fod mor hyblyg a chymwynasgar ag y gallwn, i sicrhau eich bod yn cael diwrnod gwirioneddol arbennig.

Mae ein llety bwtîc moethus yn Y Tŷ ac yn Y Cyfrinfa, ynghyd â’n lleoliad syfrdanol a’n unigrywiaeth llwyr, yn golygu mai ‘St Tewdrics House’ yw’r dewis delfrydol.

divider image

Lleoliad Pictiwrésg a Golygfeydd Godidog

Gyda llwybr llydan coediog yn arwain at y drws, mae Tŷ Sain Tewdrig wedi’i amgylchynu gan ddeg erw o gaeau gwyrdd gogoneddus cefn gwlad Cymru. A chanddi olygfeydd godidog o’r gerddi bendigedig ac aber Afon Hafren, mae’r fila Eidalaidd hardd hon o’r 19eg ganrif yn lle delfrydol i gynnal priodas. Mae yma ddigonedd o fannau pictiwrésg ar gyfer tynnu’r lluniau hollbwysig – ein ffynnon wefreiddiol, y siglen goeden hardd, ein dôl o flodau gwyllt tymhorol, Tŷ Haf (ein pergola) ynghyd â nifer o goed deiniadol.

divider image

I Chi, a Chi yn Unig

Mae ein fila hardd ar gael fel lleoliad priodas preifat lle y gallwch gynnal eich diwrnod priodas perffaith a chreu atgofion i bara oes.