Bwytewch, Yfwch a Byddwch Briod
Ry’n ni’n eich annog i ychwanegu eich cyffyrddiadau personol eich hunain at bob rhan o’ch diwrnod gyda ni yn ‘St Tewdrics’ a dyna pam ry’n ni’n cynnig hyblygrwydd llwyr pan y daw hi at gynllunio’r bwyd a diod, rhywbeth sy’n bersonol iawn i bob cwpwl.Mae bwyd a diod yn bersonol iawn i bob cwpl felly gwnewch yn siŵr bod eich priodas yn unigryw trwy gael eich hoff fwyd a diod fel rhan o’r diwrnod.
Efallai y byddwch chi’n dewis gweini Mojito’s fel eich diodydd derbyn i’ch atgoffa o’r amser roeddech chi’n sipian coctels ar y traeth, neu efallai ail-greu’r pryd cyntaf a gawsoch gyda’ch gilydd fel rhan o’ch brecwast priodas. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd.
Dewis Anhygoel o Fwydlenni Blasus
Rydyn ni’n credu y dylai’r bwyd sy’n cael ei weini ar ddiwrnod eich priodas fod yn wirioneddol gofiadwy ac i’ch gwesteion gael eu syfrdanu. Dyna pam yr ydym wedi dewis detholiad o arlwywyr yn ofalus i gynnal eich gwledd briodas a’r dathliadau gyda’r nos.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n tri arlwywr i sicrhau bod pob rhan o’ch diwrnod priodas yn cael ei ofalu amdano fel y gallwch ymlacio a mwynhau pob eiliad.
Bydd ein holl arlwywyr yn gweithio gyda chi i’ch helpu i ddewis y fwydlen briodas berffaith ac mae pob un yn cynnig blasu bwyd am ddim i’ch helpu i benderfynu ar eich bwydlen briodas, na ddylid ei fethu! O ran bwyd gyda’r nos, mae gan bob arlwywr amrywiaeth o opsiynau blasus fel byrgyrs gourmet, gorsafoedd pizza, rhostiau mochyn, pysgod a sglodion, planciau deli a mwy.
Epic
Caterers
Pickled
Pumpkin Catering
Ffwrnes
Pizza
Strawberry
Shortcake
Gadewch i’r Diodydd Lifo
Pan mae’n dod at ddewis diodydd ar gyfer eich priodas, ry’n ni’n ymfalchïo’n fawr yn yr hyblygrwydd ry’n ni’n ei gynnig i chi.