Strawberry Shortcake

Ciniawa Heb Gyfaddawd

Mae yna rai achlysuron arbennig pan mai dim ond y gorau fydd yn gwneud. O briodasau wedi’u teilwra i ddigwyddiadau corfforaethol i bartïon agos atoch, gallwn gynnig profiad bwyta heb gyfaddawd i weddu i’ch holl anghenion.

Dyma’r egwyddorion sy’n arwain ein busnes a’n bywyd beunyddiol…

UN – PAID CYFADDAWDU
Cafwyd Scott Davies ei addysgu gan y goreuon: Marco Pierre White, Nobu, Gordon Ramsay, Gary Rhodes a Jean Georges yn Efrog Newydd. Dysgodd ei grefft y ffordd galed trwy weithio gyda’r bobl sydd â’r safonau uchaf, a mwyaf manwl gywir. Mae yn y safonau uchel hyn y gallwch ymddiried ynddynt. Gwyddoch y byddwch mewn dwylo da.

DAU – MAE EICH YMDDIRIEDAETH YNOM NI YN BWYSIG
Dyma’ch diwrnod mawr chi. Rydym yn deall hynny. Rydych chi am iddo fynd yn berffaith. Ac rydych chi eisiau i bawb fynd i ffwrdd yn meddwl eu bod wedi cael y bwyd gorau erioed. Ry’ ni hefyd. Ry’n ni’n gwybod eich bod chi wedi ymddiried ynom ni, a dyna pam ry’n ni’n parhau i weithio mor hwyr, ac yn codi mor gynnar. Gwneud chi’n falch yw’r peth pwysicaf i ni.

TRI – MAE TIMAU’N ENNILL
Y cynhwysion ar gyfer unrhyw fusnes llwyddiannus yw adeiladu tîm yn gyntaf, a’i hadeiladu o amgylch pwrpas canolog y cwmni: Ein pwrpas yn syml iawn yw sicrhau eich bod chi’n cael diwrnod gwych. Felly rydyn ni’n hurio pobl sy’n gofalu, sy’n caru bwyd, ac sydd yn gyffredinol yn caru plesio pobl eraill. Mae pawb ar eu hennill drwy wneud hynny.

PEDWAR – RYDYM YN GWERTHU AUR
Ry’n ni’n prynu’r cynhwysion gorau. Rydym yn talu pris teg amdanynt. Ac ry’n ni’n defnyddio ein holl sgil i’w coginio mor syml â mor hardd ag y gwyddom sut. Hyfforddwn ein tîm i safon uchel. Bydd bob amser pobl sy’n rhatach na ni. Ond ry’n ni’n gwerthu aur.

PUMP – CYSONDEB YW’R GWIR ATHRYLITH
Gall unrhyw un fod yn dda unwaith. Ond i fod yn rhagorol dro ar ôl tro, dyna lle mae’r gwir athrylith. Daw cysondeb o sgil, gwaith caled a disgyblaeth. Mae disgyblaeth yn golygu dilyn y rheolau yr ydym wedi’u gosod i ni’n hunain. Ac mae’n ddi-baid. Pob dydd. Does dim llwybrau byr. Mae’n anodd gwneud enw da ac mae’n hawdd ei golli.

CHWECH – BOD YN HAEL
Credwn mewn bod yn hael gyda’n dognau, gyda’n canmoliaeth i’n tîm, gyda’n hymdrechion i’ch plesio. Ry’n ni yma i wneud eich diwrnod chi’n un arbennig, ac mae hynny’n golygu ein bod ni’n mynd yr ail filltir fel mater o drefn. Nid yw gwên yn costio dim. Nid yw moesau da yn costio dim. Yn ein llyfr ni, allwch chi ddim bod yn rhy hael.

SAITH – YR UNIG BETH SY’N BWYSIG YW POPETH
Er mwyn gwneud i rywbeth edrych yn hawdd, rhaid gwneud llawer iawn o waith caled ymlaen llaw. Pob manylyn wedi’i ystyried. Pob manylyn wedi’i weithredu wrth i chi ei gynllunio yn eich pen. Ry’n ni’n deall pa mor bwysig yw’r diwrnod hwn i chi. Felly rydym yn rhoi sylw i’r manylion lleiaf.

WYTH – OS YW’N YMWNEUD A’R BWYD YN UNIG, BYDDWCH CHI’N DEWIS NI
Mae tarddiad yn bwysig o ran ffresni. Yn ffodus, ar garreg ein drws mae rhai o’r tyfwyr gorau, a’r cynhyrchwyr gorau ar y blaned, ac mae eu defnyddio nhw’n gwneud synnwyr perffaith. Ein nod yw bod y gorau.

divider image

Byddai tîm cyfeillgar Strawberry Shortcake yn hapus i drafod bwydlenni gyda chi yn fwy manwl ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich arlwyo priodas. Gellir cysylltu â nhw ar:  info@strawberryshortcakedining.com 
01269 833 703

X