Gwybodaeth i Westeion a Chwestiynau Cyffredin

Gwybodaeth Gyffredinol

Ry’n ni wedi casglu ychydig o wybodaeth gyffredinol i helpu gwesteion sy’n mynychu priodas yn St Tewdrics House, ynghyd â rhai cwestiynau eraill sy’n cael eu gofyn i ni yn aml. Ry’n ni’n gobeithio bydd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol i chi ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach mae croeso mawr i chi gysylltu â ni drwy ffonio 01291 627378 neu ebostio weddings@sttewdrics.co.uk.

divider image
Dod o hyd i ni

Mae St Tewdrics House wedi’i leoli yng Nghas-gwent (nodir y cyfeiriad llawn isod) bum munud yn y car o’r M48. Mae’n werth gwybod nad yw pob llywiwr lloeren yn eich cyfeirio’n union at St Tewdrics House felly bydden ni’n eich cynghori i gymryd golwg ar ein map (ar y dudalen gyswllt) cyn ymweld â ni.

St Tewdrics House
Mathern Road
Chepstow
Monmouthshire
NP16 6HX

Faint o bobol allwn ni wahodd?

Gallwn groesawu hyd at 150 o westeion ar gyfer eich seremoni, gwledd briodas a pharti nos.

Ry’n ni eisiau priodi yn St Tewdrics House, beth yw’r camau nesaf?

Y cam cyntaf fydd cadw dyddiad i chi, a gallwn ni wneud hyn am saith diwrnod. Bydd hyn yn rhoi ychydig o amser i chi ystyried popeth a sicrhau bod y cofrestryddion neu’r eglwys ar gael i gynnal gwasanaeth ar y diwrnod hwnnw. Bydd angen talu blaendal o £2,500 i gadarnhau dyddiad eich priodas, a gall hwn gael ei dalu drwy drosglwyddiad banc. Bydd hefyd gofyn i chi arwyddo a dychwelyd copi o’n telerau ac amodau.

Ry’n ni eisiau priodi yn St Tewdrics House; oes angen i ni drefnu’r gwasanaeth sifil ein hunain?

Oes, allwn ni ddim trefnu’ch gwasanaeth sifil ar eich rhan felly bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Gofrestru Sir Fynwy eich hunain. Mae eu manylion cyswllt wedi’u nodi isod.

http://www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/wedding
Ffôn: 01873 735435
Ebost: ceremonies@monmouthshire.gov.uk

Faint o’r gloch allwn ni gael mynediad i’r lleoliad ar ddiwrnod ein priodas?

Cewch fynediad i’r Tŷ o 11:00am ar fore eich priodas. Gall eich cyflenwyr gael mynediad i’r Cwrt o 9am er mwyn dechrau gosod yr addurniadau ar gyfer eich seremoni neu’ch gwledd.

Faint o’r gloch fydd y lleoliad yn cau ar ddiwedd diwrnod ein priodas?

Bydd y bar yn cau a’r gerddoriaeth yn dod i ben am hanner nos. Gofynnwn fod y gwesteion i gyd yn gadael y lleoliad erbyn 12.30am felly ry’n ni’n awgrymu eu bod yn trefnu tacsis i’w casglu rhwng 12.00am – 12.15am. Mae croeso i’r gwesteion hynny sy’n aros yn yr ystafelloedd gwely ddychwelyd i’r Tŷ i ymlacio a rhannu straeon dros gwrw oer neu baned o de.

Llety yn St Tewdrics House

Mae ganddon ni wyth ystafell wely yma yn St Tewdrics House. Y cwpl sy’n priodi sydd yn gyfrifol am ddewis pwy fydd yn aros ynddynt felly allwn ni ddim derbyn ceisiadau uniongyrchol gan westeion. Os fyddwch chi’n aros yn St Tewdrics House, bydd eich ystafell yn barod ar eich cyfer erbyn 2 o’r gloch y prynhawn ac ry’n ni’n fwy na hapus i gadw’ch bagiau tan hynny os y’ch chi’n cyrraedd yn gynnar. Rhaid gadael yr ystafell erbyn 10am y bore canlynol.

Faint o’r gloch sydd angen i ni adael y lleoliad y diwrnod wedi’r briodas?

Gofynnwn yn garedig i chi adael y lleoliad erbyn 10.00yb y diwrnod ar ôl eich priodas.

Llety Lleol

Mae digonedd o argymhellion gyda ni os y’ch chi’n chwilio am rywle cyfagos i aros. Dyma restr o lefydd i aros yn lleol, sydd i gyd o fewn pellter cyfleus i St Tewdrics House.

St Pierre Marriott Hotel & Country Club, Chepstow
Two Rivers, Chepstow
Ty Hotel, Magor
The First Hurdle Guest House, Chepstow
No8 Chepstow, Chepstow
Willowbrook Guest House, Chepstow
BroadRock Accommodation, Chepstow

Faint o’r gloch allwn ni fynd i’r ystafelloedd gwely?

Bydd y swît briodasol ar gael i chi fel lle i baratoi o 11am ymlaen. Gall y gwesteion sy’n aros yn Y Tŷ fynd i’w hystafelloedd o 2pm ymlaen, ac ry’n ni’n awgrymu eu bod yn gwneud hyn yn ystod y diodydd croeso. Os bydd rhai gwesteion yn cyrraedd yn gynharach na hynny ac eisiau dod a’u bagiau i’r Tŷ, ry’n ni’n fwy na hapus i’w cadw’n ddiogel nes bod eu hystafelloedd yn barod.

Oes rhaid defnyddio pob un o’r wyth ystafell wely?

Oes, ry’n ni’n gofyn fod pob un o’r wyth ystafell wely yn cael ei defnyddio. Gallwch chi neu eich gwesteion dalu am y rhain. Codir tâl arnoch chi am unrhyw ystafelloedd sydd heb eu talu 2 fis cyn eich priodas.

Gawn ni ddewis ein cwmni arlwyo ein hunain i ddarparu’r bwyd ar gyfer ein priodas?

Ry’n ni’n teimlo bod bwyd yn rhan bwysig iawn o bob priodas ac wedi dwys ystyried ry’n ni wedi dewis penodi Epic Caterers yn arlwywyr mewnol i ni. Serch hynny, mae llawer o hyblygrwydd gyda chi o hyd; mae popeth yn bosibl ac mi fyddan nhw’n gweithio’n agos gyda chi i lunio’r fwydlen berffaith ar gyfer eich diwrnod mawr. Yn ogystal â Epic Caterers, mae cwmni Ffwrnes Pizza hefyd ar gael fel opsiwn arlwyo ar gyfer eich parti nos.

Gawn ni ddarparu ein diodydd ein hunain ar gyfer ein priodas?

Bydd yr holl ddiodydd yn cael eu darparu gan St Tewdrics House ond peidiwch â phoeni gan fod ganddon ni ddewis helaeth ar gael a bydd modd darparu’r holl ffefrynnau ar y diwrnod.

Gawn ni addurno’r lleoliad yn ein steil ein hunain?

Ry’n ni’n eich annog i roi eich stamp eich hunain ar y lleoliad a’i addurno fel y dymunwch. Bydd eich cydlynydd priodas wrth law i helpu gyda’r addurno ar fore’r briodas neu efallai y byddwch chi wedi penderfynu cyflogi steilydd lleoliad i wneud y gwaith ar eich rhan. Y cyfan ry’n ni’n ei ofyn yw eich bod yn sicrhau nad yw’ch addurniadau’n difrodi’r lleoliad mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys peidio defnyddio hoelion, sgriwiau, na thâp gludiog ar waith paent. Gadewch bopeth yn ei gyflwr gwreiddiol os gwelwch yn dda.

Yw llieiniau bwrdd, napcynau lliain, cyllyll a ffyrc, llestri, llestri gwydr ac ati wedi’u cynnwys?

Ydyn. Bydd St Tewdrics yn darparu llestri gwydr ar gyfer eich diodydd croeso, gan gynnwys ffliwtiau a gwydrau ar gyfer diodydd meddal ac am gost ychwanegol, ry’n ni’n hapus i logi mwy o wydrau ar gyfer bar gin, Pimm’s a choctels. Bydd gwydrau gwin, gwydrau dŵr a ffliwtiau ar gyfer y llwncdestun yn cael eu darparu ar gyfer y wledd briodas, ynghyd â llieiniau bwrdd, napcynau lliain, cyllyll, ffyrc a llestri.

Allwn ni logi gweithgareddau ar gyfer ein priodas e.e. bŵth lluniau, golff mini, reidiau ffair ac ati?

Gallwch, mae croeso i chi logi gweithgareddau ar gyfer diwrnod eich priodas – mae’n ffordd wych o ddiddanu’ch gwesteion! Y cyfan ry’n ni’n ei ofyn yw bod gan ddarparwr y gweithgaredd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a thystysgrifau PAT ar gyfer eu holl offer trydanol. Bydd hefyd rhaid iddyn nhw oruchwylio’r gweithgaredd os oes angen.

Conffeti

Mae croeso i chi daflu cymaint ag y dymunwch chi o gonffeti bioddiraddadwy yn St Tewdrics House. Dy’n ni ddim yn caniadau defnyddio canonau confetti.

Parcio Ceir

Mae digonedd o lefydd parcio yn St Tewdrics House. Mae croeso i chi adael eich car yma dros nos ond mi fydd angen ei gasglu erbyn 10 o’r gloch y bore canlynol.

Tacsi

Bydd angen i chi archebu o flaen llaw os y’ch chi’n bwriadu trefnu tacsi i’ch casglu o St Tewdrics House. Mae Cas-gwent yn dref fach ac mae tacsis yn cael eu bwcio’n gyflym, yn enwedig gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Wnaiff cwmniau tacsis yr ardal ddim cymryd archebion wedi hanner nos ac ni fydden ni am i chi fod heb ffordd o fynd adref ar ddiwedd y noson. Ry’n ni’n cynghori eich bod yn cyrraedd y lleoliad hanner awr cyn y seremoni (os yw’n digwydd yn St Tewdrics House) ac yn trefnu bod eich tacsi adref yn eich casglu rhwng 12.00am-12.15am.

Polisi’r bar ac yfed

Rhaid i bob diod sy’n cael ei yfed ar dir St Tewdrics House fod wedi cael ei prynu wrth y bar. Mae’n bwysig i ni fod prisiau diodydd y bar yn rhesymol felly ry’m ni wedi eu seilio ar brisiau tafarndai a bariau lleol. Bydd unrhyw ddiod na chafodd ei phrynu wrth y bar yn cael ei chymryd oddi wrth y gwestai felly ry’n ni’n gofyn yn garedig i chi i barchu’r polisi hwn er mwyn atal unrhyw embaras i’r pâr priod ar eu diwrnod arbennig.

Polisi ysmygu a chyffuriau

Mae polisi dim ysmygu llym gan St Tewdrics House; ni chaniateir ysmygu o fewn y lleoliad nac ar y tir ar unrhyw adeg. Mae priodas yn ddiwrnod hapus i’w rannu â theulu a ffrindiau a gan fod nifer o blant yn mynychu’n priodasau, does dim goddefgarwch o gwbwl pan y daw at gario neu ddefnyddio cyffuriau hamdden. Mi fydd gofyn i unrhyw westai sy’n cario cyffuriau neu sydd, yn ein barn ni o dan ddylanwad cyffuriau, i adael y lleoliad ar unwaith ac fe fydd yr heddlu’n cael eu hysbysu.

X