Ein Stori Ni

‘St Tewdrics’, Y Lleoliad Perffaith

Mae ‘St Tewdrics House’ yn eiddo i’r tîm gŵr a gwraig, Geraint Thomas OBE a Sara Thomas, ac yn cael ei redeg ganddyn nhw ynghyd â rhieni Sara, Eifion a Beth.
Trawsnewidiwyd y Fila Eidalaidd o’r 19eg Ganrif o fod yn gartref teuluol i fod yn lleoliad priodas ar ôl i Geraint a Sara gynnal eu gwledd briodas eu hunain yn ‘St Tewdrics’.

Ar ôl dathlu eu dyweddïad nôl yn 2013, aeth Geraint a Sara ati i chwilio am le delfrydol i gynnal eu priodas. Buon nhw’n edrych ar sawl lleoliad priodas ond chawson gryn drafferth i ddod o hyd i rywle oedd yn cynnig popeth roedden nhw eisiau.

divider image

Steil Rhamantaidd y Dadeni Eidalaidd

“Buon ni’n edrych ar sawl tŷ gwledig, ac er eu bod nhw’n drawiadol, roedden ni’n eu gweld nhw’n fawr ac yn amhersonol. Yn aml roedd ganddyn nhw addurn traddodiadol nad oedd yn cyd-fynd â’n steil na’n delwedd ni o’r hyn yr oeddem ni eisiau i’n priodas fod.Roedd sawl lle hefyd yn ein clymu ni mewn i becynnau bwyd a diod, heb roi rhyddid i ni gynnig ein syniadau neu’n gofynion personol ein hunain. Fe syrthiasom mewn cariad â ‘St Tewdrics House’ yr eiliad i ni weld y lle.
Mae teimlad rhamantus yn perthyn i’r adeilad Eidalaidd ac er bod ei steil yn glasurol, mae e’n fodern rhywsut ac felly’n gweddu’n berffaith gyda’r ddelwedd oedd gyda ni.”

Yn dilyn seremoni eglwysig cynhaliodd Sara a Geraint eu gwledd briodas yn ‘St Tewdrics House’ ym mis Hydref 2015. “Allen ni ddim bod wedi gofyn am leoliad mwy delfrydol i dreulio’r diwrnod mwyaf rhyfeddol, ac roedd ein ffrindiau a’n perthnasau’n cytuno. Soniodd cymaint ohonynt am ba mor brydferth oedd y tŷ. Dyna pryd dechreuon ni feddwl nad ni oedd yr unig rai fu’n chwilio am le fel hyn i briodi.

Dyna pryd cawson ni’r syniad i agor drysau ‘St Tewdrics House’ i eraill i gael treulio’u diwrnod mawr yma. Ry’n ni eisiau i bob priodfab a phriodferch fwynhau ‘St Tewdrics House’ a’i leoliad rhamantus cymaint ag y gwnaethom ni, a’i thrin fel eu cartref oddi cartref ar ddiwrnod mwyaf arbennig eu bywydau.”

divider image

Gwaith Adnewyddu ar Raddfa Fawr

Ar ôl penderfynu agor drysau ‘St Tewdrics House’ fel lleoliad priodas, dechreuodd Sara, Geraint a’u teulu ar y gwaith mawr o adnewyddu’r lle. Ailadeiladwyd y ffermdy a’r stablau gwreiddiol i greu’r Cwrt, fel mae’n cael ei adnabod bellach. Gan fod y cynllun newydd, cyfoes wedi caniatáu cadw llawer o’r nodweddion gwreiddiol, mae’r adeilad bellach yn lle perffaith i gyplau i ddathlu gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau.

Roedd y tŵr eiconig a oedd wedi bod yn adfail, yn brosiect mawr a phenderfynodd Sara a Geraint ymgymryd â’r gwaith mawr o droi rhan ucha’r tŵr yn ystafell wely moethus fel y gallai gwesteion ddeffro i’r golygfeydd panoramig o ben y tŵr. Mae’n sicr bod gan yr ystafell hon y waw-ffactor a hi yw un o ffefrynnau’r teulu erbyn hyn!

Cwblhawyd y gwaith adnewyddu yn 2016 ac ar yr 22ain o Hydref y flwyddyn honno, cynhaliwyd y briodas gyntaf yn ‘St Tewdrics House’. Ers hynny, mae’r teulu wedi cael y pleser o helpu cannoedd o gyplau i drefnu priodas eu breuddwydion yn ‘St Tewdrics House’, ac maen nhw wedi mwynhau bob eiliad!

Geraint Thomas OBE yw enillydd Tour De France 2018, ras lle enillodd e ddau gymal gan gynnwys ar ben yr Alpe d’Huez eiconig – y beiciwr cyntaf o Brydain i wneud hynny erioed. Dros ei yrfa o ddeuddeg mlynedd fel beiciwr proffesiynol, mae e wedi tyfu i fod yn un o’r athletwyr mwyaf amryddawn ac enwog yn ei gamp. Oddi ar y ffordd, mae Geraint yn bencampwr Olympaidd dwbl ar y trac.

divider image

X