Caban Y Coed: Ystafell Wisgo Eich Dydd Priodas
Yn nythu o fewn ein tiroedd hudolus, ein hystafell wisgo newydd sbon yw’r lle perffaith i baratoi a mwynhau’r eiliadau gwerthfawr hynny ar fore eich priodas
O’n teulu ni i’ch teulu chi, mae Caban y Coed wedi’i gynllunio i sicrhau bod gennych chi a’ch parti bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar fore eich priodas. Wedi’i orlifo â golau naturiol, mae’n lle perffaith i baratoi gwallt glam llawn a cholur ac mae’n cynnwys:
3 x Gorsaf Coluro
Tair gorsaf wallt a cholur pwrpasol.
Ystafell Newid a Man Cadw’r Ffrog
Er mwyn sicrhau fod eich ffrog yn cael ei harddangos yn berffaith ac yn hawdd ei chyrraedd ar gyfer yr eiliadau gwisgo lan hudolus hynny.
Ardal Lolfa
Perffaith ar gyfer eich parti priodas i’ch gwylio chi’n paratoi ac i dynnu’r lluniau hwyliog hynny.
Cegin
Eich cegin eich hun gyda bar brecwast i fwynhau un ai paned i ymlacio neu hyd yn oed gwydraid o ffizz!
Peiriant Nespresso
Ar gyfer yr hwb caffein hanfodol hwnnw i’ch cadw’n chi’n llawn egni ac yn barod ar gyfer y diwrnod sydd i ddod.
Stafell Ymolchi
Cyfleusterau cyfleus i ffresio ac ychwanegu’r cyffyrddiadau olaf hynny cyn cerdded i lawr yr eil.
Gyda chefndir godidog o dir St Tewdrics House, mae’r ystafell wisgo hon yn addo i fod yn lleoliad perffaith ar gyfer creu’r atgofion bore priodas werthfawr hynny. Hefyd, mae’n lle gwych i dynnu’r lluniau paratoi!
Mae eich siwrnai yn cychwyn yn St Tewdrics House, ac mae Caban Y Coed yma i wneud pob eiliad
sy’n arwain at y daith fythgofiadwy honno i lawr yr eil yn hollol berffaith.
Mae Caban Y Coed wedi’i gynnwys ym mhob archeb newydd o Ionawr 2024 a cheir mynediad o 8.00 ar fore diwrnod eich priodas.