Ffilmio a Sesiynau Tynnu Lluniau

Y Lleoliad Delfrydol

Yng nghanol 10 erw o dir preifat sy’n edrych dros aber Afon Hafren ynghyd â disgresiwn a phreifatrwydd o’r radd flaenaf, mae ‘St Tewdrics’ yn lleoliad amlbwrpas sydd yn berffaith ar gyfer ffilmio a chynnal sesiynau tynnu lluniau. Geraint Thomas OBE a’i wraig Sara biau’r Fila Eidalaidd syfrdanol a nhw sy’n ei rhedeg ynghyd â rhieni Sara, Eifion a Beth. Yn wir, cynhaliodd Geraint a Sara eu priodas nhw eu hunain yn ‘St Tewdrics’ nôl yn 2015.

Byddai’r cyntedd a’i risiau trawiadol yn berffaith ar gyfer sesiwn tynnu lluniau ffasiwn neu ffordd o fyw. Ry’n ni’n cynnig dwy ystafell dderbyn/eistedd gyda nenfydau uchel, lloriau pren, llefydd tân gwreiddiol a chegin ffermdy mawr. Fyny’r grisiau mae ystafell wely swît fawr yn ogystal â phum ystafell wely arall a dwy ystafell ymolchi.

Nodwedd sy’n ddeniadol iawn i gwmnïau cynhyrchu yw’r Cwrt, sef ystafell anferth gyda waliau cerrig â ffenestri gwydr o’r llawr i’r nenfwd. Mae ynddo canhwyllyr, ffenestri to a bar – perffaith ar gyfer unrhyw olygfa parti neu briodas. Gyda mynedfa breifat a gatiau y gellir eu cloi, mae ‘St Tewdrics’ ar gyrion Cas-gwent, rhyw bymtheg munud yn y car o’r M4.

Tu allan, mae’r gerddi’n cynnig sawl ardal addas ar gyfer ffilmio, gan gynnwys coetiroedd a dolydd blodau gwyllt, pagoda a phatio a ffynnon ddŵr. Mae yma hyd yn oed siglen sy’n edrych dros y tŷ ei hun. Gwelwch isod am fanylion cyswllt…

divider image

Byddem wrth ein bodd yn Siarad

Cysylltwch â’n tîm i logi cyfleusterau: lauren@sttewdrics.co.uk / 01291 627378 neu defnyddiwch y ffurflen isod…

divider image

    By submitting this form, you agree for St Tewdrics House to contact you to discuss your wedding enquiry in accordance with our Privacy Policy.

    * required fields

    X