Eich Seremoni

Y Lle Perffaith i Ddweud ‘Gwnaf’

Mae Tŷ Sain Tewdrig yn lleoliad trwyddedig gyda Gwasanaeth Cofrestru Sir Fynwy i gynnal Seremonïau Sifil i hyd at 150 o westeion. Ry’n ni hefyd yn croesawu seremonïau Dyneiddiol, bendithion ac adnewyddu addunedau.

Os fyddwch chi’n dewis cynnal eich seremoni yn Nhŷ Sain Tewdrig, fe allwch chi ymlacio a gwneud y mwyaf o’ch amser gyda ni gan wybod fod pob rhan o’ch diwrnod yn digwydd yn yr un lleoliad.

Gallwch chi naill ai gynnal eich seremoni yn Y Cwrt, gyda’i ffenestri to a siandalïers disglair, neu y tu allan yn Tŷ Haf (ein pergola), sydd wedi’i amgylchynu gan ddôl o flodau gwyllt tymhorol. Ar gyfer seremoni lai ei maint, efallai y byddai’n well gennych chi ddefnyddio un o ystafelloedd derbyn Y Tŷ, sy’n gynnig golygfeydd bendigedig o’r gerddi hyfryd.

divider image

Personoli’ch Seremoni

I wneud eich seremoni’n fwy personol gallwch gynnwys darlleniadau a cherddi, yn ogystal â chwarae’ch hoff gerddoriaeth wrth i chi gerdded lawr yr eil. Mae modd cael cerddoriaeth fyw tu mewn yn Y Cwrt neu y tu allan yn Tŷ Haf – ffordd wych o wneud yr achlysur yn un hyd yn oed yn fwy arbennig.

Gallwn ni gasglu’ch gwesteion ar y teras ar gyfer llun conffeti ar ôl y seremoni, â’r dolydd a’r gerddi’n gefndir bendigedig. Ac erbyn iddyn nhw orffen eich llongyfarch chi, byddwn ni’n barod gyda chanapes a diodydd i bawb.

Yn lle hynny, efaillai y byddwch yn dewis cynnal eich gwasanaeth mewn eglwys neu gapel cyn teithio mewn steil i Dŷ Sain Tewdrig ar gyfer eich parti priodas. Mae yna nifer o eglwysi gerllaw, gan gynnwys Eglwys Sain Tewdrig, Mathern. Ble bynnag y byddwch chi’n dewis dweud ‘gwnaf,’ byddwn ni’n barod i’ch croesawu chi a’ch gwesteion gyda gwydriaid o fybli.

divider image
X