Diodydd

Gadewch i’r Diodydd Lifo

Pan mae’n dod at ddewis diodydd ar gyfer eich priodas, ry’n ni’n ymfalchïo’n fawr yn yr hyblygrwydd ry’n ni’n ei gynnig i chi.

Bydd ein Rheolwr Bar wrth law yn barod i helpu i sicrhau eich bod yn cael y diodydd perffaith i gyd-fynd â phob rhan o’r diwrnod ac yn gallu rhannu syniadau gwych os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch chi. Rydyn ni wedi gweini popeth o siampên a chwrw potel crefftus i goctels ‘Ef a Hi’ a bariau gin!

Mae gennym ddau far yn ‘St Tewdrics’ gyda’r prif far wedi’i leoli yn Y Cwrt a bydd ar gael yn ystod eich brecwast priodas a’ch parti gyda’r nos. Mae gennym hefyd ein Bar Potel wedi’i leoli yn Y Tŷ a gall fod ar gael yn ystod eich derbyniad diodydd ac ar ôl y brecwast priodas.

divider image

X