Pickled Pumpkin

Arlwyo Cyffrous a Chofiadwy

Rydym yn gwmni arlwyo ifanc, ffres dan arweiniad gan gogyddion, a’n prif flaenoriaeth yw ein safon uchel o fwyd a arweinir gan gogyddion. 

Mae gan ein tîm o gogyddion enw da am fod yn llawn dychymyg ac yn hynod amryddawn trwy eu blynyddoedd o brofiad, yn arlwyo ar draws De’r DU.

Oes syniad gyda chi? Grêt! Heriwch ac ysbrydolwch ni ag ef – rydym wrth ein bodd yn creu offrymau pwrpasol i weddu i’ch union anghenion.

Ein cenhadaeth yw bywiogi eich digwyddiadau gydag arlwyo hwyliog, cyffrous a chofiadwy. Boed ar gyfer partïon, cynulliadau neu hyd yn oed ginio swyddfa, mae’n cyd-fynd law yn llaw â’n nod i’ch ysbrydoli chi a’ch ffrindiau neu gleientiaid gyda chiniawa arloesol.

Rydym yn gweini bwyd safonol bwyty gan gael gwared ar y bwydlenni diysbryd sy’n gysylltiedig fel arfer â digwyddiadau ar raddfa fawr.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn gyson, o’n ffynonellau cynnyrch a chynnal eich nosweithiau blasu, i greu bwyd a gwasanaeth o ansawdd uchel wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer eich diwrnod mawr.

Nid yn unig rydym yn ymfalchïo yn yr holl gynhwysion a chyflenwyr lleol ond hefyd ein ffyrdd dyfeisgar o ddefnyddio pecynnau ailgylchadwy ar hyd y ffordd.

divider image

Mae’r bwydlenni bwyd stryd yn berffaith ar gyfer bwyd gyda’r nos a chyplau sydd eisiau priodas arddull fwy hamddenol.

Byddai’r tîm profiadol yn Pickled Pumpkin yn hapus i drafod bwydlenni gyda chi yn fwy manwl ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich arlwyo priodas. Gellir cysylltu â nhw ar:
Feedus@pickledpumpkincatering.co.uk 
01291 424 055

X