Priodasau Llai eu Maint

Lleoliad Rhamantus i Gynnal Priodasau Llai

Yma yn Nhŷ Sain Tewdrig ry’n ni’n cynnig dau becyn llogi ar gyfer priodasau llai, sy’n opsiynau perffaith i gyplau sydd am gynnal dathliad breifat a moethus gyda’u hanwyliaid agosaf. Cyfle i fwynhau rhamant ac arbenigrwydd Tŷ Sain Tewdrig gyda 15 neu 30 o westeion, ar gael tan ddiwedd Mehefin 2021. Os nad y’ch chi’n dymuno aros i briodi, efallai mai dyma’r union beth sy’n taro’r nod. 

divider image

Y Cyfan Sydd ei Angen yw Cariad…ac Ychydig o Westeion

Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau agosaf ynghyd a dywedwch ‘Gwnaf’ yn lleoliad rhamantus Tŷ Sain Tewdrig. Mae’r Cwrt yn berffaith i gynnal seremoni ar i hyd at 30 o bobol cyn o’ch blaen a’ch gwesteion yn mwynhau ychydig o ffotograffau yn amgylchoedd hardd Y Tŷ a’r gerddi hardd. Manteisiwch ar ein lleoliad pictiwrésg i dynnu’r lluniau hollbwysig hynny er mwyn i chi allu trysori bob eiliad.

Mae pecyn ‘Y Cyfan Sydd ei Angen yw Cariad…ac Ychydig o Westeion’ yn cynnwys:
Defnydd neilltuedig o Dŷ Sain Tewdrics am 4 awr
i hyd at 30 o bobol

Dyddiau Llun, Mawrth, Mercher neu Iau – £2,450.00
Dyddiau Gwener, Sadwrn neu Sul – £2,950.00

Codir tâl o £425.00 am bob awr ychwanegol.

Nodwch y gall ein dewisiadau llogi lleoliad ar gyfer priodasau llai newid os caiff canllawiau Llywodraeth Cymru eu diwygio. Yn berthnasol i ymholiadau newydd yn unig. Mae’r prisiau sydd wedi’u nodi yn cynnwys TAW.

divider image

Y Cyfan Sydd ei Angen yw Cariad…Ychydig o Westeion, Bwyd a Diod

Dewch i ddathlu’ch diwrnod mawr gyda hyd a’ch anwyliaid agosaf mewn lleoliad cefn gwlad delfrydol. Gwnewch eich addunedau yn Y Cwrt trawiadol cyn mwynhau diodydd a thynnu lluniau yn y Tŷ hardd rhestredig gradd II a’r gerddi pictiwrésg. Gallwch wedyn ymlacio yn Y Cwrt wrth i’n harlwywyr mewnol, Cleverchefs yn Nhŷ Sain Tewdrig, weini gwledd briodas flasus i chi a’ch gwesteion. Gorffennwch eich dathliadau gyda’ch dawns gyntaf ac edrych yn ôl dros adegau mwyaf arbennig y dydd.

Mae pecyn ‘Y Cyfan Sydd ei Angen yw Cariad…Ychydig o Westeion, Bwyd a Diod’ yn cynnwys:
Defnydd neilltuedig o Dŷ Sain Tewdrics o 10.30 y bore tan 6.00 yr hwyr
i hyd at 15 o bobol

Dyddiau Llun, Mawrth, Mercher neu Iau – £3,950.00
Dyddiau Gwener, Sadwrn neu Sul – £4,950.00

Nodwch y gall ein dewisiadau llogi lleoliad ar gyfer priodasau llai newid os caiff canllawiau Llywodraeth Cymru eu diwygio. Os bydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i hyd at 30 o bobl fynychu derbyniad priodas ar eich dyddiad priodas, yna byddwn yn hapus i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn y niferoedd. Yn berthnasol i ymholiadau newydd yn unig. Mae’r prisiau sydd wedi’u nodi yn cynnwys TAW.

divider image
X