Gwybodaeth Gyffredinol

Mae TŷSain Tewdrig wedi’i leoli yng Nghas-gwent, bum munud yn y car o’r M48, sy’n ei wneud yn hawdd i’w gyrraedd o Gymru ac o Loegr. Mae’r cyfeiriad llawn wedi’i nodi isod. Mae’n werth gwybod nad yw pob llywiwr lloeren yn eich cyfeirio’n union at DŷSain Tewdrig felly bydden ni’n eich cynghori i gymryd golwg ar ein map (ar y dudalen gyswllt) cyn ymweld â ni.
St Tewdrics House
Mathern Road
Chepstow
Monmouthshire
NP16 6HX
Gallwn groesawu hyd at 150 o westeion ar gyfer eich seremoni, gwledd briodas a pharti nos.
Os y’ch chi’n meddwl mai Tŷ Sain Tewdrig yw’r lleoliad priodas i chi, dyma newyddion gwych – ry’n ni wedi’n cyffroi’n lan! Y cam cyntaf fydd cadw dyddiad i chi, a gallwn ni wneud hyn am saith diwrnod. Bydd hyn yn rhoi ychydig o amser i chi ystyried popeth a sicrhau bod y cofrestryddion neu’r eglwys ar gael i gynnal gwasanaeth ar y diwrnod hwnnw. Yna bydd angen talu blaendal o £1,500 i gadarnhau dyddiad eich priodas, a gall hwn gael ei dalu drwy drosglwyddiad banc. Bydd hefyd gofyn i chi arwyddo a dychwelyd copi o’n telerau ac amodau.
Oes, allwn ni ddim trefnu’ch gwasanaeth sifil ar eich rhan felly bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Gofrestru Sir Fynwy eich hunain. Mae eu manylion cyswllt wedi’u nodi isod.
http://www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/wedding
Ffôn: 01873 735435
Ebost: ceremonies@monmouthshire.gov.uk
Cewch fynediad i’r Tŷo 10.30am ymlaen ar fore eich priodas. Gall eich cyflenwyr gael mynediad i’r Cwrt o 9am er mwyn dechrau gosod yr addurniadau ar gyfer eich seremoni neu’ch gwledd.
Bydd y bar yn cau a’r gerddoriaeth yn dod i ben am hanner nos. Gofynnwn fod y gwesteion i gyd yn gadael y lleoliad erbyn 12.30am felly ry’n ni’n awgrymu eu bod yn trefnu tacsis i’w casglu rhwng 12.00am – 12.15am. Mae croeso i’r gwesteion hynny sy’n aros yn yr ystafelloedd gwely ddychwelyd i’r Tŷi ymlacio a rhannu straeon dros gwrw oer neu baned o de.
Mae ganddon ni wyth ystafell wely yma yn NhŷSain Tewdrig ond y cwpl sy’n priodi sydd yn gyfrifol am ddewis pwy fydd yn aros ynddynt felly allwn ni ddim derbyn ceisiadau uniongyrchol gan westeion. Os fyddwch chi’n aros yn NhŷSain Tewdrig, bydd eich ystafell yn barod ar eich cyfer erbyn 2 o’r gloch y prynhawn ac ry’n ni’n fwy na hapus i gadw’ch bagiau tan hynny os y’ch chi’n cyrraedd yn gynnar. Rhaid gadael yr ystafell erbyn 10am y bore canlynol.
Ry’n ni am i chi allu mwynhau’r bore ar ôl eich priodas a gwneud defnydd llawn o’r tŷ, ond ry’n ni’n gofyn fod pob ystafell wely’n wag erbyn 10am a bod y gwesteion i gyd wedi gadael Y Tŷerbyn 10.30am.
Mae digonedd o argymhellion gyda ni os y’ch chi’n chwilio am rywle cyfagos i aros. Dyma restr o lefydd i aros yn lleol, sydd i gyd o fewn pellter cyfleus i DŷSain Tewdrig.
St Pierre Marriott Hotel & Country Club, Chepstow
Two Rivers, Chepstow
Ty Hotel, Magor
The First Hurdle Guest House, Chepstow
No8 Chepstow, Chepstow
Willowbrook Guest House, Chepstow
BroadRock Accommodation, Chepstow
Bydd y swît briodasol ar gael i chi fel lle i baratoi o 11am ymlaen. Gall y gwesteion sy’n aros yn Y Tŷfynd i’w hystafelloedd nhw o 2pm ymlaen, ac ry’n ni’n awgrymu eu bod yn gwneud hyn yn ystod y diodydd croeso. Os bydd rhai gwesteion yn cyrraedd yn gynharach na hynny ac eisiau dod a’u bagiau i’r Tŷ, ry’n ni’n fwy na hapus i’w cadw’n ddiogel nes bod eu hystafelloedd yn barod.
Oes, ry’n ni’n gofyn fod pob un o’r wyth ystafell wely yn cael ei defnyddio. Mae cost yr wyth wedi’i chynnwys ym mhris llogi TŷSain Tewdrig ond os fyddai’n well gennych fod y gwesteion yn talu am eu hystafelloedd eu hunain, rhaid i hyn gael ei wneud o flaen llaw. Byddwn yn codi tâl ar y cwpl sy’n priodi am bob ystafell sydd heb gael ei thalu amdani.
Ry’n ni’n teimlo bod bwyd yn rhan bwysig iawn o bob priodas ac wedi dwys ystyried ry’n ni wedi dewis penodi Cleverchefs yn arlwywyr mewnol i ni. Serch hynny, mae llawer o hyblygrwydd gyda chi o hyd; mae popeth yn bosibl ac mi fyddan nhw’n gweithio’n agos gyda chi i lunio’r fwydlen berffaith ar gyfer eich diwrnod mawr.
Yn ogystal â Cleverchefs, mae cwmni Ffwrnes Pizza hefyd ar gael fel opsiwn arlwyo ar gyfer eich parti nos.
Bydd yr holl ddiodydd yn cael eu darparu gan DŷSain Tewdrig ond peidiwch â phoeni gan fod ganddon ni ddewis helaeth ar gael a bydd modd darparu’r holl ffefrynnau ar y diwrnod.
Wrth gwrs! Ry’n ni’n eich annog i roi eich stamp eich hunain ar y lleoliad a’i addurno fel y dymunwch. Bydd eich cydlynydd priodas wrth law i helpu gyda’r addurno ar fore’r briodas neu efallai y byddwch chi wedi penderfynu cyflogi steilydd lleoliad i wneud y gwaith ar eich rhan. Y cyfan ry’n ni’n ei ofyn yw eich bod yn sicrhau nad yw’ch addurniadau’n difrodi’r lleoliad mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys peidio defnyddio hoelion, sgriwiau, na thâp gludiog ar waith paent. Gadewch bopeth yn ei gyflwr gwreiddiol os gwelwch yn dda.
Ydyn. Bydd Tŷ Sain Tewdrig yn darparu llestri gwydr ar gyfer eich diodydd croeso, gan gynnwys ffliwtiau a gwydrau ar gyfer diodydd meddal ac am gost ychwanegol, ry’n ni’n hapus i logi mwy o wydrau ar gyfer bar gin, Pimm’s a choctels. Bydd gwydrau gwin, gwydrau dŵr a ffliwtiau ar gyfer y llwncdestun yn cael eu darparu ar gyfer y wledd briodas, ynghyd â llieiniau bwrdd, napcynau lliain, cyllyll, ffyrc a llestri.
Gallwch, mae croeso i chi logi gweithgareddau ar gyfer diwrnod eich priodas – mae’n ffordd wych o ddiddanu’ch gwesteion! Y cyfan ry’n ni’n ei ofyn yw bod gan ddarparwr y gweithgaredd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a thystysgrifau PAT ar gyfer eu holl offer trydanol. Bydd hefyd rhaid iddyn nhw oruchwylio’r gweithgaredd os oes angen.
Mae croeso i chi daflu cymaint ag y dymunwch chi o gonffeti bioddiraddadwy yn NhŷSain Tewdrig ond dy’n ni ddim yn caniadau defnyddio canonau confetti.
Mae digonedd o lefydd parcio yn Nhŷ Sain Tewdrig. Mae croeso i chi adael eich car yma dros nos ond mi fydd angen ei gasglu erbyn 10 o’r gloch y bore canlynol.
Bydd angen i chi archebu o flaen llaw os y’ch chi’n bwriadu trefnu tacsi i’ch casglu o DŷSain Tewdrig. Mae Cas-gwent yn dref fach ac mae tacsis yn cael eu bwcio’n gyflym, yn enwedig gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Wnaiff cwmniau tacsis yr ardal ddim cymryd archebion wedi hanner nos ac ni fydden ni am i chi fod heb ffordd o fynd adref ar ddiwedd y noson. Ry’n ni’n cynghori eich bod yn cyrraedd y lleoliad hanner awr cyn y seremoni (os yw’n digwydd yn NhŷSain Tewdrig) ac yn trefnu bod eich tacsi adref yn eich casglu rhwng 12.00am-12.15am.
Rhaid i bob diod sy’n cael ei yfed ar dir Tŷ Sain Tewdrig fod wedi cael ei prynu wrth y bar. Mae’n bwysig i ni fod prisiau diodydd y bar yn rhesymol felly ry’m ni wedi eu seilio ar brisiau tafarndai a bariau lleol. Bydd unrhyw ddiod na chafodd ei phrynu wrth y bar yn cael ei chymryd oddi wrth y gwestai felly ry’n ni’n gofyn yn garedig i chi i barchu’r polisi hwn er mwyn atal unrhyw embaras i’r pâr priod ar eu diwrnod arbennig.
Mae polisi dim ysmygu llym gan DŷSain Tewdrig; ni chaniateir ysmygu o fewn y lleoliad nac ar y tir ar unrhyw adeg. Mae priodas yn ddiwrnod hapus i’w rannu â theulu a ffrindiau a gan fod nifer o blant yn mynychu’n priodasau, does dim goddefgarwch o gwbwl pan y daw at gario neu ddefnyddio cyffuriau hamdden. Mi fydd gofyn i unrhyw westai sy’n cario cyffuriau neu sydd, yn ein barn ni o dan ddylanwad cyffuriau, i adael y lleoliad ar unwaith ac fe fydd yr heddlu’n cael eu hysbysu.