Popeth rydych chi wedi breuddwydio amdano.
P’un a ydych yn chwilio am achlysur agos-atoch neu ddathliad mwy mawreddog, byddwn yn troi eich gweledigaeth priodas yn realiti, gan sicrhau bod pob manylyn yn cael ei wireddu yn union fel y gwnaethoch ei ddychmygu.
Caban y Coed
Eich ystafell wisgo ar ddiwrnod y briodas, yn swatio yn ein tiroedd hudolus. Mae’n bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Eich seremoni
Priodwch yn y ffordd rydych chi wedi breuddwydio amdani erioed. Gellir cynnal seremonïau yn Y Cwrt neu yn yr awyr agored yn Tŷ Haf (ein pergola) wedi’i amgylchynu gan ddôl blodau gwyllt tymhorol hardd. I gael seremoni fwy agos atoch, efallai y byddai’n well gennych ddefnyddio un o’n hystafelloedd derbyn yn Y Tŷ, sydd â golygfeydd godidog dros y gerddi.


Eich brecwast priodas
O’ch derbyniad diodydd a’ch brecwast priodas i’r ddawns gyntaf – mae Tŷ St Tewdric yn lleoliad perffaith i ddathlu eich priodas â phawb yr ydych yn eu caru, i gyd mewn un lle.

Arhoswch gyda ni
Gwnewch Dŷ St Tewdric yn gartref ichi, gyda phawb yr ydych yn eu caru o dan yr un to. Ymlaciwch, dathlwch a dadflinwch mewn steil gyda gwelyau mawr iawn mewn deg ystafell moethus, gydag ystafelloedd ymolchi en-suite, baddonau pen-tro a chawodydd y gallwch gerdded i mewn iddynt. Gallwch fwynhau golygfeydd panoramig ar draws cefn gwlad Cymru, ail-fyw eich diwrnod arbennig a rhannu straeon gydag anwyliaid dros frecwast (neu frecinio) yn ein cegin i westeion y bore wedyn – moethusrwydd gwych ar gyfer achlysur gwirioneddol arbennig.
