Eich brecwast priodas.
Araith y gwas priodas. Y chwerthin. Y dagrau. Y ddawns gyntaf. A dawnsio fel does neb yn gwylio. Mae eich brecwast priodas yn ymwneud â chreu atgofion a fydd yn para am oes gyda phawb yr ydych yn eu caru, i gyd mewn un lle.

P’un a ydych chi’n mwynhau’r harddwch y tu allan neu’r moethusrwydd cyfoes y tu mewn, byddwn wrth law i fodloni’ch holl anghenion. Byddwn yn cadw’r diodydd, y bwyd a’r adloniant i lifo trwy gydol y dydd ac ymhell i’r nos. O’r dechrau i’r diwedd, gofalir am bopeth.

Mae gennym ddau far yn Nhŷ St Tewdric. Mae’r prif far yn Y Cwrt sydd ar gael yn ystod eich brecwast priodas a’ch parti nos. Mae ein Bar Poteli i’w gael yn Y Tŷ a gall fod ar gael yn ystod eich derbyniad diodydd ac ar ôl y brecwast priodas.
O areithiau…



… i befr



Pob cân a dawns.
Rydyn ni’n pylu’r goleuadau, rydych chi’n dathlu trwy’r nos. Trowch Y Cwrt yn llawr dawns a dathlwch noson eich priodas mewn steil.