Adeilad rhestredig Gradd II Eidalaidd o’r 19eg ganrif sy’n swatio yng nghefn gwlad bryniog Cymru, gyda golygfeydd godidog dros aber Hafren. Cyrhaeddwch ar hyd dramwyfa drawiadol â choed ar ei hyd, a phrofwch ddeg erw o dir prydferth a mawredd swynol. Mae Tŷ Tewdric yn lleoliad delfrydol ar gyfer y briodas rydych chi wedi breuddwydio amdani erioed.




Wedi’i amgylchynu gan olygfeydd syfrdanol o’n tiroedd hardd, dôl blodau gwyllt tymhorol a’r wlad tu hwnt. Lleoliad hyfryd i’w rannu â phawb rydych chi’n eu caru.