Eich Lleoliad. Eich ffordd chi.

I gyplau sydd eisiau ymestyn y dathlu, mae ein pecynnau llogi am Ddeuddydd neu Dridiau yn cynnig y profiad neilltuol gorau posibl gyda phreifatrwydd. Byddwch yn cael defnydd llawn o’n fila Eidalaidd ysblennydd a’r gerddi a byddwch chi a’ch gwesteion yn cael yr amser i fwynhau hud eich priodas yn llawn. Gallwch gyrraedd yn gynnar ac ymlacio yn y tŷ a’r gerddi ar y noson cyn y briodas a fydd yn golygu y byddwch ar y safle i ddechrau eich paratoadau cyn y briodas mor gynnar ag y mynnwch!
Mae aros dros nos yn ein llety moethus am ddwy neu dair noson yn golygu y gallwch chi a’ch gwesteion fwynhau priodas fythgofiadwy. Mae’r profiad estynedig hwn yn berffaith ar gyfer dod at eich gilydd cyn y briodas, i gynnal dathliadau ychwanegol neu i fwynhau mwy o amser gyda theulu a ffrindiau mewn lleoliad rhyfeddol.
Yr hyn sydd wedi’i gynnwys
- Defnydd neilltuol o St Tewdrics House am ddau neu dri diwrnod. Mae gostyngiad o 50% yn cael ei roi i 2il a 3ydd diwrnod y llogi. Mae’r holl lety ar y safle hefyd ar gael yn ystod y cyfnod llogi.
- Cydlynydd priodasau personol, yn cynnwys cydlynu ar y diwrnod
- Canllaw cynllunio priodas yn cynnwys awgrymiadau, cynghorion a rhestrau gwirio i’ch helpu gyda’r cynllunio
- Addurniadau yn cynnwys lanterni, arwydd croeso, îsls, trefniadau blodau artiffisial yn y Tŷ, bwa o flodau artiffisial o amgylch y drysau yn y Cwrt, deiliach artiffisial ar y trawstiau yn y Cwrt, a charped hir ar gyfer yr eil.
- Cadeiriau Chiavari gyda byrddau crwn ar gyfer y gwesteion a phrif fwrdd crwm, crwn neu fwrdd i ddau
- Defnydd o’n system sain Sonos i chwarae cerddoriaeth ar gyfer eich seremoni, eich derbyniad diodydd a’ch brecwast priodas.
- Defnydd o’n meicroffonau llaw ar gyfer eich areithiau
- Dau far â thrwydded lawn
