Priodasau Defnydd Neilltuol

St Tewdrics

Eich Lleoliad, trwy’r Dydd

Mae ein pecyn Llogi am y Diwrnod Neilltuol yn cynnig preifatrwydd a mynediad llawn at ein fila Eidalaidd ysblennydd a’r gerddi i ddathlu eich diwrnod arbennig. Byddwch hefyd yn cael defnydd neilltuol o’r cwrt ar gyfer eich seremoni, y Tŷ ar gyfer eich derbyniad a’n gerddi godidog i gael tynnu lluniau anfarwol. Cewch hefyd aros dros nos i fwynhau'r dathliad priodas diwrnod llawn gorau posib.
Bydd ein tîm priodas ymroddedig wrth law i sicrhau bod pob manylyn yn berffaith a fydd yn caniatáu i chi ymlacio a dathlu mewn steil. Mae naw ystafell wely foethus ar y safle ar gael i chi a’ch gwesteion. Dyma’r lle perffaith i briodas eich breuddwydion. Yr hyn sydd wedi’i gynnwys :

Yr hyn sydd wedi’i gynnwys

  • Defnydd neilltuol o St Tewdrics House rhwng 11.30am ar ddiwrnod eich priodas a 10.00am y diwrnod canlynol
    • Caban y Coed o 8.00am ar ddiwrnod eich priodas i chi gael paratoi
    • Ystafell Cariad o 11.30am ar ddiwrnod eich priodas i chi gael paratoi
    • Ystafell Cariad i aros dros nos ar noson eich priodas
  • Cydlynydd priodasau personol, yn cynnwys cydlynu ar y diwrnod
  • Canllaw cynllunio priodas yn cynnwys awgrymiadau, cynghorion a rhestrau gwirio i’ch helpu gyda’r cynllunio
  • Addurniadau yn cynnwys lanterni, arwydd croeso, îsls, trefniadau blodau artiffisial yn y Tŷ, bwa o flodau artiffisial o amgylch y drysau yn y Cwrt, deiliach artiffisial ar y trawstiau yn y Cwrt, a charped hir ar gyfer yr eil.
  • Cadeiriau Chiavari gyda byrddau crwn ar gyfer y gwesteion a phrif fwrdd crwm, crwn neu fwrdd i ddau
  • Defnydd o’n system sain Sonos i chwarae cerddoriaeth ar gyfer eich seremoni, eich derbyniad diodydd a’ch brecwast priodas.
  • Defnydd o’n meicroffonau llaw ar gyfer eich areithiau
  • Dau far â thrwydded lawn

Explore More Ways to Say ‘I Do’

Priodasau Clòs

For couples who want to enjoy some of the traditional elements of a wedding, but in a more relaxed and intimate way...

Cariad yw Popeth

Our ‘All You Need is Love’ is for couples looking for an elegant and intimate ceremony-only celebration at St Tewdrics House...

Y Profiad Priodas Gorau Posibl

For couples looking to extend their celebrations, our Two and Three Day Hire packages offer the ultimate exclusive experience...