Priodasau Clòs

Ar gyfer cyplau sydd eisiau mwynhau elfennau traddodiadol priodas, ond mewn ffordd fwy hamddenol. Dechrau’r diwrnod trwy ddweud eich addunedau o flaen eich teulu a’ch ffrindiau yn ein Hystafell Dderbyn drawiadol ac yna mwynhau gwydriad o fybls. Yn ystod eich amser gyda ni gallwch fanteisio’n llawn ar ein gerddi godidog i dynnu’r lluniau hollbwysig y gallwch edrych yn ôl arnynt am flynyddoedd i ddod. Yna byddwch yn symud i’r Cwrt i fwynhau brecwast priodas bendigedig, chwerthin yn ystod yr areithiau a thorri’r gacen.
Yr hyn sydd wedi’i gynnwys
- Defnydd neilltuol o’r Tŷ, y Cwrt a’r gerddi rhwng 11.30am a 5.30pm
- Perffaith i chi fwynhau eich seremoni, diodydd a brecwast priodas gyda hyd at 30 o westeion
- Seremoni i’w chynnal yn yr Ystafell Dderbyn yn y Tŷ
- Addurniadau blodau artiffisial trawiadol ar gyfer eich seremoni a’ch brecwast priodas. Mae’r addurniadau’n cynnwys bwa toredig dau ddarn, trefniadau blodau gwyllt ar gyfer yr eil a dau drefniant tal
- Gwydriad o Prosecco i chi a’ch gwesteion ar ôl y seremoni
- Bar ar agor i’ch gwesteion brynu diodydd ychwanegol
- Brecwast priodas yn y Cwrt (codir tâl ar wahân am y bwyd gan un o’n harlwywyr)
- Cydlynydd priodasau personol, yn cynnwys cydlynu ar y diwrnod
- Ar gael ar rhai dyddiadau ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2025 a mis Ionawr 2026.
