Eich Priodas

St Tewdrics

Creu eich diwrnod perffaith…

Priodasau Defnydd Neilltuol

Mae ein pecyn Llogi am y Diwrnod Defnydd Neilltuol yn cynnig preifatrwydd a mynediad llawn at ein fila Eidalaidd ysblennydd a’r gerddi i ddathlu eich diwrnod arbennig. Byddwch yn cael defnydd neilltuol o’r Cwrt ar gyfer eich seremoni, y Tŷ ar gyfer eich derbyniad a’n gerddi godidog i gael tynnu lluniau anfarwol.

Priodasau Clòs

Ar gyfer cyplau sydd eisiau mwynhau rhai o elfennau traddodiadol priodas, ond mewn ffordd fwy hamddenol a chlòs. Dywedwch eich addunedau yn ein Hystafell Dderbyn o flaen eich teulu a’ch ffrindiau a mwynhau gwydriad o fybls i ddathlu wedyn

Cariad yw Popeth

Mae ein pecyn ‘Cariad yw Popeth’ ar gyfer cyplau sydd eisiau dathliad seremoni yn unig yn St Tewdrics House. Gallwch wneud eich addunedau priodas yn ein hystafell seremoni drawiadol sy’n llawn golau naturiol ac wedi’i hamgylchynu gan olygfeydd panoramig o’n gerddi godidog.

Y Profiad Priodas Gorau Posibl

I gyplau sydd eisiau ymestyn y dathlu, mae ein pecynnau llogi am Ddeuddydd neu Dridiau yn cynnig y profiad neilltuol gorau posibl. Byddwch yn cael defnydd preifat a llawn o’n fila Eidalaidd ysblennydd a’r gerddi a byddwch chi a’ch gwesteion yn cael yr amser i fwynhau hud eich priodas yn llawn.