Eich Diwrnod

St Tewdrics

Popeth rydych chi wedi breuddwydio amdano.

Pa un a ydych eisiau achlysur clòs neu ddathliad mwy, fe wnawn ni eich helpu i wireddu eich gweledigaeth ar gyfer eich priodas a sicrhau bod pob manylyn yn berffaith.

Eich ystafell wisgo – Caban y Coed

Eich ystafell wisgo ar ddiwrnod eich priodas, sy’n swatio yn y gerddi godidog. Y lle perffaith i baratoi ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Laura Grace Photography

Eich seremoni

Priodi yn y ffordd rydych wastad wedi breuddwydio amdano. Gellir cynnal seremonïau yn y Cwrt neu du allan yn ein Tŷ Haf (ein pergola) wedi’ch amgylchynu gan ein dôl blodau gwyllt tymhorol bendigedig. Os hoffech seremoni fwy clòs, efallai y byddai’n well gennych ddefnyddio un o’n hystafelloedd derbyn yn y Tŷ gyda golygfeydd trawiadol dros y gerddi.

Will Fuller Photography
Imagine Photography

Eich derbyniad

O’ch derbyniad diodydd a’ch brecwast priodas i’r ddawns gyntaf – St Tewdrics House yw’r lleoliad perffaith i ddathlu eich priodas gyda’ch anwyliaid i gyd o dan un to.

Interiors of St Tewdrics House Reception - Jenny & Hannah Wedding Photography

Aros gyda ni

Gwnewch eich hun yn gartrefol yn St Tewdrics House gyda’ch holl anwyliaid o dan un to. Ymlaciwch, dathlwch a chael seibiant mewn steil gyda gwelyau enfawr mewn deg ystafell foethus, gydag ystafelloedd ymolchi en-suite, sydd â baddonau a chawodydd bendigedig. Mwynhewch olygfeydd panoramig cefn gwlad Cymru, ail-fyw eich diwrnod arbennig a rhannu straeon gyda’ch anwyliaid dros frecwast (neu frecinio) yn ein cegin i westeion y bore wedyn – moethusrwydd go iawn ar gyfer achlysur arbennig iawn.

St Tewdrics House Accommodation - Laura Grace Photography