Llety Moethus yn Nhŷ Sain Tewdrig

Golygfeydd Panoramig o’r Swît Briodasol
Mae ein swît briodasol foethus, Cariad, wedi’i lleoli yn Y Tŷ, a thrwy ei ffenestri gwydr eang ceir golygfeydd panoramig o’r gerddi hyfryd ac o aber Afon Hafren. Mae Cariad yn dod gyda ‘chloch fybli’ ei hun hyd yn oed, rhywbeth sydd ei hangen ar bob priodferch neu briodfab! Ond pwy o’ch gwesteion fydd â’r swydd hollbwysig o sicrhau fod y swigod yn parhau i lifo? Pan fyddwch yn hollol barod a hapus, efallai bydd awydd arnoch i dynnu ychydig o luniau cyn gwneud eich ffordd lawr y grisiau godidog i gael eich cyfarch gan eich teulu a’ch ffrindiau anwylaf. A chyn pen dim, bydd hi’n bryd dechrau’ch seremoni! Fel gallwch chi ddychmygu, mae boreau diwrnod priodas bob amser yn arbennig iawn yma yn Nhŷ Sain Tewdrig.
Yn ogystal â’r swît briodasol, mae gan Y Tŷ bum ystafell wely bwtîc ddwbl, en-suit, pob un wedi’i haddurno’n hyfryd. Mae dwy ystafell wely en-suite arall ar gael yn Y Porthdy, neu’r Lodge, sydd prin dafliad carreg o’r Tŷ. Bydd y swît briodasol ar gael i chi o 11 o’r gloch ymlaen ar ddiwrnod eich priodas, gan roi amser i chi fwynhau paratoadau’r bore. Bydd yr ystafelloedd gwely ar gael i’ch gwesteion o 2pm ymlaen ar ddiwrnod eich priodas, a gofynnwn yn garedig eu bod yn cael eu gadael erbyn 10am y bore canlynol.

